Skip to main content

Calendr Cadw 2022

£9.95

 Calendr Cadw 2022  Calendr Cadw 2022  Calendr Cadw 2022  Calendr Cadw 2022  Calendr Cadw 2022  Calendr Cadw 2022

Calendr Cadw 2022

£9.95

Cyflwyno

O £2.95

Nifer

Dechreuwch gynllunio ar gyfer 2022 gyda chalendr newydd Cadw, sy'n cynnwys 12 o'n hoff safleoedd ar eu gorau, gan gynnwys Castell Dolbadarn, a adeiladwyd gan y Cymry, ar y clawr blaen — eich ffefryn yn ddi-os yn ein pleidlais gyhoeddus ar gyfer cystadleuaeth clawr blaen.

Mae safleoedd eraill sy'n ymddangos yn cynnwys golygfa o'r awyr o Gastell Rhuddlan ar ffurf diemwnt, crandrwydd ysblennydd Abaty Tyndyrn, Siambr Gladdu cyn-hanesyddol Pentre Ifan, caer fawreddog Castell Rhaglan, siambr fawr Elisabethaidd yn nhŷ tref Plas Mawr ac, wrth gwrs, cestyll Edwardaidd trawiadol Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech.

Gallwch geisio am gysur hefyd yn ein safleoedd crefyddol, gan gynnwys harddwch Llys yr Esgob Llandyfái ac ysbrydoliaeth dragwyddol Priordy Llanddewi Nant Hodni. Mae llun mewnol nenfwd anhygoel paentiedig hyfryd yn ystafell groeso Castell Coch yn goron ar y casgliad ar gyfer y Nadolig.

Mae calendr Cadw yn cynnwys digon o le i nodi dyddiadau, digwyddiadau ac achlysuron pwysig. Anrheg perffaith i unrhyw hanesydd, ond yn rhodd ddelfrydol hefyd. Yn fwy na hynny, drwy brynu'r calendr, byddwch yn helpu i warchod 130 o'n safleoedd hanesyddol ledled Cymru.

Cod y Cynnyrch : CP000022

Maint: 300(ll) x 300(u)

Daw’r calendr gyda haen o blastig tenau i’w amddiffyn.

Nwyddau o’r siop

Dim ond ar gyfer cludiant yn y DU mae’r prisiau. I drafod archebion tramor, e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru.

Gwybodaeth am Gludiant

Cludiant safonol y DU (gan y Post Brenhinol neu Gludwr) £2.95

Cludiant Safonol
Yn berthnasol i gludiant safonol y DU yn unig – gallwch ddisgwyl cludiant gan y Post Brenhinol neu gludwr o fewn 7 diwrnod i archebu.

Gallai cludiant i ardaloedd diarffordd gymryd hirach, gan gynnwys y codau post canlynol: AB, BT, DD 8-11, HS, IV, KA 27-28, KW, PA20-23, 28-29, 31, 34, 41 ymlaen, PH8, 10, 16, 18 ymlaen, TR21-25, ZE.

Pryd fyddaf yn derbyn fy nwyddau?

Ar ôl i chi archebu ar-lein, byddwn ni’n anfon e-bost cadarnhau â’r pwnc ‘Siop Ar-lein Cadw – diolch am eich archeb’ atoch chi.

Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost hwn o fewn 24 awr i archebu neu os nad yw eich nwyddau wedi cyrraedd o fewn yr amser a nodir yn yr e-bost, e-bostiwch:
CadwOnlineShop@llyw.cymru

Dychwelyd ac ad-dalu

Ein polisi ad-dalu tocynnau ar-lein:

  • gellirgweldprisiautocynnau, argaeleddtocynnau ac amseroeddagorsafleoedd ar cadw.llyw.cymru
  • mae’n rhaid talu am docynnau a ffioedd archebu wrth archebu ac ni ellir cadw tocynnau heb dalu
  • ni ad-delir tocynnau ar-lein ar gyfer digwyddiadau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo gan Cadw, yn ad-delir yn llawn
  • ni ad-delir tocynnau mynediad dydd ar-lein
  • ni ellir cyfnewid, trosglwyddo nac ailwerthu tocynnau ar-lein er budd masnachol
  • efallai na fydd tocynnau sydd wedi eu difrodi neu eu haddasu yn ddilys ac na fydd y deiliad yn cael mynediad
    efallai y gofynnir am brawf cyn hawlio rhai tocynnau a brynwyd ar-lein wrth fynd i mewn e.e. NUS
  • Ymddiheurwn nad yw talebau gostyngiad, cynigion hyrwyddo na chynigion eraill yn ddilys wrth brynu tocynnau ar-lein, gan gynnwys talebau Tesco Clubcard.

Polisi dychwelyd ein siop

Gobeithio eich bod wrth eich bodd gyda’ch archeb. Os hoffech ddychwelyd cynnyrch (heblaw am gyhoeddiadau) a brynwyd gennyn ni, gallwn ad-dalu neu gyfnewid.

Pwysig:

Dim ond os yw cyhoeddiad yn ddiffygiol/wedi difrodi wrth gael ei gludo neu cyn ei anfon y gellir cael ad-daliad, neu os ydyn ni’n anfon y cyhoeddiad/au anghywir atoch chi.

Rhaid dychwelyd yr eitemau heb eu defnyddio, yn y pecyn gwreiddiol (gyda’r labeli) a’u dychwelyd o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich archeb. Mae’r polisi hwn yn ychwanegol at eich hawliau statudol a’ch hawliau defnyddiwr.

I drefnu dychwelyd eitem, e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru ble cewch God Dychwelyd a ffurflen ddychwelyd. Dylid dychwelyd nwyddau a’ch ffurflen ddychwelyd wedi ei llenwi at:

Manwerthu Cadw — Siop Ar-lein,
Ty'r Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Anfonwch eich pecyn mewn ffordd ddiogel neu mewn ffordd y gellir ei holrhain a chadwch y prawf eich bod wedi ei bostio. Y cwsmer sy’n talu’r costau dychwelyd oni bai bod eitem yn ddiffygiol.

Os ydyn ni’n anfon eitem na wnaethoch chi ei harchebu (eitem “anghywir”), e-bostiwch ni a byddwn yn anfon taleb bostio wedi’i rhagdalu atoch er mwyn i chi ddychwelyd yr eitem.

Caiff pob ad-daliad ei brosesu o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad rydyn ni’n derbyn yr eitemau.

Caiff ad-daliadau eu had-dalu i’ch dull gwreiddiol o dalu tua deuddydd ar ôl cael eu prosesu. Yn dibynnu ar eich banc, gallai gymryd hirach i’r credyd ymddangos ar eich cyfriflen.

Noder: Os ydych chi wedi prynu eitem mewn siop Cadw ac eisiau ad-daliad, dim ond mewn siop y gellir prosesu hyn. Peidiwch â defnyddio’r broses uchod, os gwelwch yn dda.

Eitemau na ellir eu had-dalu na’u cyfnewid

Ni allwn gynnig ad-daliad na chyfnewid y nwyddau canlynol (os nad ydyn nhw’n ddiffygiol):

  • cyhoeddiadau; fel llyfrau tywys / pamffledi tywys
  • nwyddau darfodus; fel bwyd
  • nwyddau gofal personol
  • colur
  • gemwaith ar gyfer tyllau
  • CD, DVD neu fideos heb eu selio

Byddwn ni’n ad-dalu’r tâl cludiant llawn os caiff cynnyrch diffygiol neu wedi ei ddifrodi ei ddychwelyd, ond ddim os yw’r cynnyrch yn ddiangen yn unig.

Eitemau diffygiol

Os yw eitem yn ddiffygiol, cysylltwch â ni ar 03000 250022 neu e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru i drafod trefnu dychwelyd yr eitem neu gael un yn ei le.