Skip to main content

Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)

£4.95

 Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)  Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)  Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)  Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)  Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)  Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)

Palas yr Esgob, Tyddewi (Saesneg)

£4.95

Cyflwyno

O £2.95

Nifer

Tyddewi oedd esgobaeth fwyaf a phwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol. Y gadeirlan oedd cartref creiriau Dewi Sant, nawddsant Cymru, o’r chweched ganrif, a denwyd nifer sylweddol o bererinion yno, gan gynnwys y Brenin William I. Ond hyd nes penodi’r Esgob Henry de Gower yn 1328, ni allwn fod yn sicr ble roedd yr esgobion yn byw, nac ym mha fath o lety.

Byddai’r cartref esgobol wedi bod yng nghlôs y gadeirlan, ac mae’n ddigon posib ei fod ar safle’i olynydd, parth y gorllewin. Mae’r adeiladau sy’n weddill, serch hynny, yn dyst i gyfoeth, grym ac ysbrydoliaeth yr Esgob Henry de Gower (1328–47). Adeiladodd ddau resiad o ystafelloedd, un ar gyfer ei ddefnydd personol ei hun ac ail set yn addas ar gyfer achlysuron seremonïol – ble gallai dderbyn gwesteion pwysig a phererinion nodedig.

Mae’r tywyslyfr hon ar gael yn Saesneg yn unig. 

Cod y Cynnyrch : CPG00012

Cyhoeddwyd 2017 / 52 tudalen / ISBN 978-1-85760-286-9  / Maint 210mm (ll) x 255mm (u) Iaith Saesneg

Nwyddau o’r siop

Dim ond ar gyfer cludiant yn y DU mae’r prisiau. I drafod archebion tramor, e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru.

Gwybodaeth am Gludiant

Cludiant safonol y DU (gan y Post Brenhinol neu Gludwr) £2.95

Cludiant Safonol
Yn berthnasol i gludiant safonol y DU yn unig – gallwch ddisgwyl cludiant gan y Post Brenhinol neu gludwr o fewn 7 diwrnod i archebu.

Gallai cludiant i ardaloedd diarffordd gymryd hirach, gan gynnwys y codau post canlynol: AB, BT, DD 8-11, HS, IV, KA 27-28, KW, PA20-23, 28-29, 31, 34, 41 ymlaen, PH8, 10, 16, 18 ymlaen, TR21-25, ZE.

Pryd fyddaf yn derbyn fy nwyddau?

Ar ôl i chi archebu ar-lein, byddwn ni’n anfon e-bost cadarnhau â’r pwnc ‘Siop Ar-lein Cadw – diolch am eich archeb’ atoch chi.

Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost hwn o fewn 24 awr i archebu neu os nad yw eich nwyddau wedi cyrraedd o fewn yr amser a nodir yn yr e-bost, e-bostiwch:
CadwOnlineShop@llyw.cymru

Dychwelyd ac ad-dalu

Ein polisi ad-dalu tocynnau ar-lein:

  • gellirgweldprisiautocynnau, argaeleddtocynnau ac amseroeddagorsafleoedd ar cadw.llyw.cymru
  • mae’n rhaid talu am docynnau a ffioedd archebu wrth archebu ac ni ellir cadw tocynnau heb dalu
  • ni ad-delir tocynnau ar-lein ar gyfer digwyddiadau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo gan Cadw, yn ad-delir yn llawn
  • ni ad-delir tocynnau mynediad dydd ar-lein
  • ni ellir cyfnewid, trosglwyddo nac ailwerthu tocynnau ar-lein er budd masnachol
  • efallai na fydd tocynnau sydd wedi eu difrodi neu eu haddasu yn ddilys ac na fydd y deiliad yn cael mynediad
    efallai y gofynnir am brawf cyn hawlio rhai tocynnau a brynwyd ar-lein wrth fynd i mewn e.e. NUS
  • Ymddiheurwn nad yw talebau gostyngiad, cynigion hyrwyddo na chynigion eraill yn ddilys wrth brynu tocynnau ar-lein, gan gynnwys talebau Tesco Clubcard.

Polisi dychwelyd ein siop

Gobeithio eich bod wrth eich bodd gyda’ch archeb. Os hoffech ddychwelyd cynnyrch (heblaw am gyhoeddiadau) a brynwyd gennyn ni, gallwn ad-dalu neu gyfnewid.

Pwysig:

Dim ond os yw cyhoeddiad yn ddiffygiol/wedi difrodi wrth gael ei gludo neu cyn ei anfon y gellir cael ad-daliad, neu os ydyn ni’n anfon y cyhoeddiad/au anghywir atoch chi.

Rhaid dychwelyd yr eitemau heb eu defnyddio, yn y pecyn gwreiddiol (gyda’r labeli) a’u dychwelyd o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich archeb. Mae’r polisi hwn yn ychwanegol at eich hawliau statudol a’ch hawliau defnyddiwr.

I drefnu dychwelyd eitem, e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru ble cewch God Dychwelyd a ffurflen ddychwelyd. Dylid dychwelyd nwyddau a’ch ffurflen ddychwelyd wedi ei llenwi at:

Manwerthu Cadw — Siop Ar-lein,
Ty'r Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Anfonwch eich pecyn mewn ffordd ddiogel neu mewn ffordd y gellir ei holrhain a chadwch y prawf eich bod wedi ei bostio. Y cwsmer sy’n talu’r costau dychwelyd oni bai bod eitem yn ddiffygiol.

Os ydyn ni’n anfon eitem na wnaethoch chi ei harchebu (eitem “anghywir”), e-bostiwch ni a byddwn yn anfon taleb bostio wedi’i rhagdalu atoch er mwyn i chi ddychwelyd yr eitem.

Caiff pob ad-daliad ei brosesu o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad rydyn ni’n derbyn yr eitemau.

Caiff ad-daliadau eu had-dalu i’ch dull gwreiddiol o dalu tua deuddydd ar ôl cael eu prosesu. Yn dibynnu ar eich banc, gallai gymryd hirach i’r credyd ymddangos ar eich cyfriflen.

Noder: Os ydych chi wedi prynu eitem mewn siop Cadw ac eisiau ad-daliad, dim ond mewn siop y gellir prosesu hyn. Peidiwch â defnyddio’r broses uchod, os gwelwch yn dda.

Eitemau na ellir eu had-dalu na’u cyfnewid

Ni allwn gynnig ad-daliad na chyfnewid y nwyddau canlynol (os nad ydyn nhw’n ddiffygiol):

  • cyhoeddiadau; fel llyfrau tywys / pamffledi tywys
  • nwyddau darfodus; fel bwyd
  • nwyddau gofal personol
  • colur
  • gemwaith ar gyfer tyllau
  • CD, DVD neu fideos heb eu selio

Byddwn ni’n ad-dalu’r tâl cludiant llawn os caiff cynnyrch diffygiol neu wedi ei ddifrodi ei ddychwelyd, ond ddim os yw’r cynnyrch yn ddiangen yn unig.

Eitemau diffygiol

Os yw eitem yn ddiffygiol, cysylltwch â ni ar 03000 250022 neu e-bostiwch CadwOnlineShop@llyw.cymru i drafod trefnu dychwelyd yr eitem neu gael un yn ei le.