Skip to main content
19 Ebrill 2024

Hanes ar Olwynion

Amser

10am - 2pm

Lleoliad

Castell Coch

Beth am bedalu drwy hanes ym mis Gorffennaf a darganfod gwaddol teulu Bute?  

Ymunwch ag arweinydd ar daith feicio hyfryd 8km o ganol Caerdydd i Gastell Coch. Byddwch yn beicio ar hyd y Taith Taf, gan basio drwy llwybrau coedidog a pharciau glaswelltog, gan gadw'r afon frysiog ar eich chwith.

Bydd arweinydd yn datgelu llu o straeon o'r gorffennol, gan dynnu sylw at olygfeydd allweddol ar hyd y ffordd — bydd eisiau pacio camera yn sicr! 

Cadwch lygad allan am bwmp dŵr wedi'i arfer o'r 18 Ganrif a gynlluniwyd i godi dŵr o Gamlas Morgannwg.

Bydd eich taith i'r safle yn dod i ben gyda llethr serth fer tuag at gampwaith pensaerniol Burges, wedi'i swatio ymysg y coed.

Ar ol cyrraedd, mwynhewch daith dywys dan arweiniad ceidwad o'r castell drwy'r cartref Fictoriaidd hudolus a dychmygwch am ei addurniadau disglair a'i ddodrefn moethus.

Beth am fwynhau picnic neu ymweld ag ystafelloedd te y safle ar gyfer brechdan neu fara brith hefyd? Gall yfwyr coffi hyd yn oed archebu cymysgedd arbennig Castell Coch!

Ar ôl awr ar y safle, byddwch yn teithio yn ôl i'r man cychwyn ar gyfer seibiant haeddiannol. 

Dyna fore Sul llwyddiannus!

 

Telerau ac Amodau

- Mae tocynnau'n costio £15 y person am fynediad safonol, £ 7.70 i aelodau Cadw, £10 i blant 5-17 oed, £5.60 i blant sydd yn aelodau, ac maent yn rhad ac am ddim* i blant dan 5 oed. Mae tocyn teulu safonol yn costio £45 ac mae tocyn ar gyfer y rheiny ag aelodaeth yn costio £23.95. Mae prisiau tocynnau yn cynnwys mynediad i'r castell a thaith dywys.

- Mae'r teithiau beicio wedi'u cyfyngu i 10 lle i bob sesiwn ac mae angen tocyn unigol ar gyfer pob person sy'n cymryd rhan.

- Rhaid i westeion hysbysu Cadw tra’n prynu tocynnau os oes angen beic rhent. Yna, bydd Cadw yn darparu cod drwy e-bost er mwyn i gyfranogwyr ei fewnbynnu ar ap Nextbike.  Bydd angen casglu’r beic o orsaf Nextbike Llandaff Fields ym Mhontcanna (gorsaf 8325) cyn i’r ddigwyddiad gychwyn.

- Rhoddir ad-daliadau am docynnau a ganslwyd hyd at 48 awr cyn pob digwyddiad.

*£1 ffi archebu

Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw. Cynghorir ymwelwyr i ddod â'u beiciau eu hunain ond bydd Nextbikes ar gael ar gais.

Bydd Nextbikes am ddim i’w rhentu ond bydd cost bychan ar ôl dwy awr.*

Cwrdd 10am yn Pedal Power, ar bwys Dogo Street, Caerdydd, CF119JJ.

Dyddiadau pellach ar gael. Gweler y brif dudalen doccynau am fwy o wybodaeth. 

Am unrhyw ymholiadau, e-bostiwch cadw@equinox.wales

*£1 ffi archebu