Skip to main content
29 Mawrth 2024

Bybls a Blodau

Amser

2pm - 4.30pm

Lleoliad

Mae coronau o flodau i’w gweld yn aml mewn priodasau modern a gwyliau cerddoriaeth – ond oeddech chi’n gwybod bod y creadigaethau cain hyn yn cael eu gwisgo ers canrifoedd i nodi cariad a dathlu?

 

Yr haf hwn, caiff pobl sydd wrth eu boddau â blodau ddianc i Benrhyn Gŵyr i greu coronau o flodau yng Nghastell Oxwich – maenordy Tuduraidd trawiadol dafliad carreg o Fae Oxwich.

 

Gan ddefnyddio blodau lleol, tymhorol wedi eu hysbrydoli gan hanes Cymru, caiff pobl sy’n dod i’r digwyddiadau ‘Bybls a Blodau’ eu tywys drwy’r broses greadigol tra’n mwynhau gwydraid (neu ddau) o bybls!

 

 

Hefyd, mae mynediad i’r safle yn gynwysedig ym mhris y tocyn, felly caiff ymwelwyr gyfle i grwydro’r lleoliad mawreddog hwn yn eu hamser eu hunain. Wedi’r cyfan, a oes lle gwell i dynnu hunlun mewn coron o flodau?

 

Cynhelir y gweithdy gan Sharon o Sharon Dower Floral Innovations – sydd wedi bod yn gweithio gyda blodau ers dros 30 mlynedd a hyd yn oed wedi ennill medal aur yn RHS Chelsea a medal arian RHS yn RHS Tatton Park.

 

Telerau ac Amodau

- Mae tocynnau'n costio £35 am fynediad safonol a £ 31.50 i aelodau Cadw. Rhaid i bob person sy'n dod gyda chi dalu mynediad os nad oes ganddynt docyn ar gyfer y digwyddiad.

 

- Mae'r gweithdai yn gyfyngedig i 10 lle i bob sesiwn ac mae angen tocyn unigol ar gyfer pob person sy'n cymryd rhan.

 

- Rhaid i blant dan 15 fod yng nghwmni oedolyn bob amser, gydag un oedolyn i bob plentyn yn bresennol.

 

-Ni chaiff tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn eu had-dalu, oni bai eu bod yn cael eu canslo gan Cadw.

 

 

- Bydd prosecco a diodydd di-alcohol ar gael yn y digwyddiad hwn. Rhowch wybod i ni o flaen llaw am unrhyw alergeddau neu ofynion eraill cyn i chi gyrraedd.

Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw. Bydd diodydd di-alcohol ar gael.

Dyddiadau pellach ar gael. Gweler y brif dudalen docynnau am fwy o wybodaeth.

Am unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: cadw@equinox.wales