Skip to main content

Polisi Preifatrwydd

Ein haddewid preifatrwydd 

Rydyn ni wedi ymroi i ddiogelu preifatrwydd ein cefnogwyr. Rydyn ni’n ystyried eich preifatrwydd yn fater difrifol ac yn trin yr holl wybodaeth a rowch inni yn ofalus iawn.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu pawb sydd â’u cymorth yn ein helpu o i ofalu am gannoedd o safleoedd hanesyddol ar hyd a lled y wlad, ac i gadw stori Cymru yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn esbonio sut rydyn ni’n casglu, storio a defnyddio’r wybodaeth bersonol a rowch inni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch data personol a’r ffordd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, yna cysylltwch â ni yn cadw@gov.wales

Fel rheoleiddiwr data, rydyn ni’n cydymffurfio’n llwyr â Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) 2003 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.

Mae gennych hawl i 

  • mynediad i’r data personol rydyn ni’n eu prosesu amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • gofyn am i’ch data gael eu dileu (mewn amgylchiadau penodol)
  • cael eich data personol a’u hailddefnyddio at ein dibenion ein hunain mewn gwahanol wasanaethau (mewn amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth bersonol oddi wrth y rheiny sy’n ymweld â’n gwefan; cefnogwyr sy’n gwneud cais am fod yn Aelodau, yn prynu o’n siop ar-lein, ac oddi wrth y rheiny sy’n cysylltu â ni’n uniongyrchol. Gwnawn hyn yn electronig ac ar bapur.
Yn ogystal rydyn ni hefyd yn casglu manylion yn awtomatig am y tudalennau fyddwch chi’n troi iddyn nhw ar ein gwefan. Darllenwch ein polisi ar Cwcis isod am ragor o wybodaeth.
Wrth ddewis rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda ni, byddwch yn cytuno inni gasglu’ch gwybodaeth a’i defnyddio fel y disgrifir yn y polisi hwn.
Os na fyddwch am inni brosesu’ch manylion personol mwyach, gallwch ofyn unrhyw bryd inni beidio â gwneud hynny drwy gysylltu â cadwmarketing@llyw.cymru 

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a rannwch gyda ni: 

  • I sicrhau eich bod yn cael yr eitem, y gwasanaeth neu’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani neu ei phrynu
  • I weinyddu’n rhesymol eich aelodaeth, eich llogi tocynnau, eich gwirfoddoli a gwasanaethau eraill
  • I gadw mewn cysylltiad â chi fel rydych chi’n dymuno inni wneud
  • I ddeall ein cefnogwyr yn well fel y gallwn wella’r gwasanaethau a gynigiwn a’u gwneud yn rhai personol

Gweler y polisi llawn isod am fanylion sut rydyn ni’n gwneud hyn.

Bydd angen inni wneud newidiadau yn y polisi hwn o bryd i’w gilydd, i sicrhau ein bod bob amser yn rhoi ichi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd i’ch gwybodaeth bersonol.  

Cafodd y polisi hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 28/02/2023

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch sy’n ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau a’u gwella. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Enw a chyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost a rhifau teleffon
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth am dalu megis manylion cerdyn credyd a manylion banc
  • Sut hoffech chi inni gysylltu â chi
  • Manylion am brynu eitemau ac aelodaeth
  • Manylion am eich cais i wirfoddoli
  • Ymholiadau ac ymateb

Dan ein cynllun aelodaeth, rydyn ni hefyd yn gofyn am fanylion am eich plant y byddech yn dymuno inni eu cynnwys yn yr aelodaeth.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall yn well sut i ddarparu’r gwasanaeth gorau i’ch teulu o ran cynigion a digwyddiadau, ac ni fyddwn yn cysylltu â’ch plant yn uniongyrchol. 

Os byddwch wedi darparu manylion ar gyfer pobl eraill, er enghraifft, drwy brynu rhodd iddyn nhw, ni fyddwn yn cysylltu â’r bobl hynny nes iddyn nhw gael cyfle i ddweud wrthym  sut orau i gyfathrebu â nhw. 

Os byddwch wedi cysylltu â ni ar ran sefydliad, er enghraifft, Llogi Tocynnau Addysgol neu ymholiad y Fasnach Deithio, byddwn hefyd yn storio manylion eich cyflogwr.

Wrth ichi ymweld â’n gwefan byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich cyfeiriad IP a’r tudalennau fyddwch yn troi iddyn nhw. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa rannau o’n gwefan sydd fwyaf buddiol i’n cefnogwyr ac i wneud gwelliannau. Dydy hyn ddim yn dweud wrthym pwy ydych chi na ble rydych chi’n byw nes ichi ddewis rhoi’r wybodaeth honno inni. Gweler ein polisi Cwcis isod am ragor o wybodaeth.

Prosesu 

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael yr eitem neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano, yn prosesu unrhyw daliadau ac yn anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â’r gwasanaeth hwnnw.

Os byddwch wedi ymuno fel Aelod, bydd hyn yn cynnwys anfon cadarnhad atoch am y prynu a defnyddiau Aelodaeth megis cardiau aelodaeth, gwybodaeth sut i ddefnyddio’ch Aelodaeth, cylchgronau rheolaidd, llawlyfr a chylchlythyron e-bost. Byddwn hefyd yn anfon atoch wybodaeth am adnewyddu aelodaeth a gwybodaeth yn ymwneud â’ch taliadau Debyd Uniongyrchol.

Cofiwch roi gwybod inni os bydd eich manylion wedi newid. 

Marchnata a chyfathrebu

Eich dewis chi bob amser fydd cael gwybodaeth farchnata oddi wrth Cadw, a gallwch ddewis sut hoffech chi gael y wybodaeth honno gennym.

Gallwch hefyd newid eich meddwl unrhyw bryd, a byddwn yn diweddaru’ch dewisiadau.

Rydyn ni’n cyfyngu faint o gyfathrebu marchnata a anfonwn i wneud yn siŵr na fyddwn yn anfon gormod atoch. Y mwyaf a gaech gennym fyddai dau y mis, yn ogystal â gohebiaeth nad yw’n ymwneud â marchnata fel y disgrifiwyd uchod.

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost dim ond os byddwch wedi dweud wrthym yr hoffech inni gysylltu â chi fel hyn, neu i roi gwybod ichi am wasanaethau rydych wedi eu prynu eisoes.  

Gyda phob neges e-bost bydd dolen i’ch helpu i ddad-danysgrifio os dymunwch beidio â gwneud hyn bellach.
Gallwn gysylltu â chi nawr ac yn y man drwy’r post, ond gallwch roi’r gorau i hyn hefyd unrhyw bryd drwy gysylltu â cadwmemberships@golleyslater.co.uk

 

Bydd eich gwybodaeth ar gael i’w gweld dim ond gan ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n contractwyr os byddan nhw wedi’u hyfforddi ac os bydd yn briodol iddyn nhw er mwyn cyflawni eu swyddogaeth yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn.
Ni fyddwn byth yn gwerthu’ch gwybodaeth bersonol nac yn gadael i sefydliad arall ei defnyddio at ei ddibenion ei hun.

Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol dim ond: 

  • Lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny, neu o ganlyniad i gais cyfreithlon gan awdurdod llywodraethu neu awdurdod gorfodi’r gyfraith.
  • Lle byddwn wedi cyflogi cyflenwr neu gontractiwr i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, megis cyflenwi archeb, anfon eich gohebiaeth neu wneud gwaith ymchwil a dadansoddi.

Byddwn yn gweithio gyda chyflenwyr dibynadwy yn unig yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd y tu allan i’n rheolaeth ni ac nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Os ewch i mewn i safleoedd eraill gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir, gall gweithredwyr y safleoedd hynny gasglu gwybodaeth amdanoch a gaiff ei defnyddio ganddynt yn unol â’u polisi preifatrwydd hwy, a all fod yn wahanol i’n polisi ni.

Mae diogelwch eich gwybodaeth yn hanfodol bwysig i ni. Byddwn yn defnyddio amgryptio i drosglwyddo data, a chaiff ein rhwydweithiau eu monitro’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn ddiogel.

Byddwn hefyd yn adolygu’n mesurau’n rheolaidd i sicrhau eu bod wedi’u diweddaru ac yn unol â’r datblygiadau diweddaraf, yn enwedig pan fyddwn yn trin gwybodaeth am daliadau.  

Os bydd gennych gyfrinair i ganiatáu mynediad i rai rhannau o’n gwefan, rhaid ichi gadw’r cyfrinair hwnnw’n ddiogel a pheidio â’i rannu gyda neb neu fe allai eich gwybodaeth bersonol fod mewn perygl.

Ni all data sy’n cael eu trosglwyddo drwy’r rhyngrwyd neu neges e-bost fod yn ddiogel 100%.  Fel amgylchedd byd-eang, gall trosglwyddo data i ni fod yn digwydd y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop.

Byddwn mor ofalus ag sy’n rhesymol i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel, ond ni ellir gwarantu hynny, felly byddwch yn ymwybodol mai ar eich perygl eich hun y byddwch yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth i ni. Ar ôl inni gael eich gwybodaeth, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ei bod yn ddiogel y tu mewn i’n rhwydwaith, sydd o fewn Ardal Economaidd Ewrop.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol dim ond cyhyd ag sydd angen yn rhesymol i gyflenwi gwasanaethau a gweinyddu ein perthynas â chi. Fel rheol mae hynny yn ddwy flynedd ers eich cysylltiad diwethaf â ni oni fydd yn ofynnol inni ei chadw’n hirach am resymau cyfreithiol neu drethu. 

Os byddwn yn cael gwared â’ch gwybodaeth, caiff ei wneud bob amser yn ddiogel.

Mae gennych hawl i gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Os dymunwch gysylltu â ni ynglŷn â defnyddio’ch data er mwyn gweinyddu eich aelodaeth, anfonwch e-bost at aelod o’n tîm aelodaeth yn cadwmemberships@golleyslater.co.uk neu ffoniwch 02920786022. (Mae hyn yn ailadrodd y wybodaeth rydyn ni wedi’i chynnwys yn y telerau a’r amodau ar gyfer llofnodi aelodaeth ar-lein).

Os byddwch am gyflwyno cŵyn ynglŷn â defnyddio’ch data, byddwch cystal ag ysgrifennu at ein:

Cadw  
Ty Afon  
Heol Bedwas  
Caerffili  
CF83 8WT  

Neu anfon e-bost atom yn cadwmarketing@llyw.cymru 

Hwyrach hefyd fod gennych hawl i gael gwybodaeth anghywir wedi’i chywiro a’r hawl i wrthwynebu prosesu rhagor o’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer marchnata uniongyrchol.

Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan y gwefannau fyddwch yn eu defnyddio.  Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn darparu gwybodaeth i berchnogion y safle. Er enghraifft, mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis YouTube i ymgorffori fideos yn ei dudalennau a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr tra byddan nhw ar y safle. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n safle, gallwn wella’r gwelywio a’r cynnwys er mwyn bodloni anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth a gesglir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelir â hwy, y porwr a’r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol.

Dyma’r cwcis a ddefnyddiwn ar ein safle ni:

Cwci Enw Diben
Language version langPrefWAG Caiff7y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys ac mae’n hanfodol i’r safle arddangos fersiwn iaith gywir y safle.
GoogleAnalytics __utma
__utmb
__utmc
__utmz

Defnyddir y cwcis hyn i ddarganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn y wybodaeth i’n helpu i wella’r  safle.  

Bydd y cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys y nifer sy’n ymweld â’r safle, a fyddant wedi ymweld o’r blaen a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw.

CookieControl civicAllowCookies
civicShowCookieIcon

Mae’r cwci hwn yn cofnodi a fydd defnyddiwr wedi derbyn defnyddio cwcis ar ein safle.

Rydyn ni hefyd yn galluogi Nodweddion Hysbysebu Google Analytics; mae hyn yn ein caniatáu ni i alluogi nodweddion yn Analytics nad ydynt ar gael mewn gweithredu safonol. Bydd nodweddion hysbysebu yn cynnwys:

  • galluogi Google Analytics i gasglu data am draffig gwefan gyda cwcis hysbysebu Google a dyfeisiau adnabod, yn ogystal â data a gasglwyd wrth weithredu Google Analytics safonol.
  • ailfarchnata gyda Google Analytics
  • adrodd am Argraffiadau o’r Rhwydwaith Arddangos Google
  • demograffeg ac Adrodd am Ddiddordeb Google Analytics
  • Gwasanaethau integredig  sydd angen Google Analytics i gasglu data er pwrpasau hysbysebu, gan gynnwys casglu data drwy’r cwcis hysbysebu a’r dyfeisiau adnabod
  • gallwch chi optio allan o dracio data Google Analytics drwy ychwanegu ychwanegyn porwr optio allan yma.

YouTube VISITOR_INFO1_LIVE
PREF
use_hitbox

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i arddangos fideos YouTube ar ein safle.


Mae porwyr gwe yn caniatáu rheoli cwcis i ryw raddau drwy osodiadau porwyr. I gael gwybod rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org 

Cwcis trydydd parti

I’w gwneud yn haws ichi ddefnyddio’n gwefan a’i rhannu, rydyn ni’n ymgorffori nodweddion o wefannau eraill megis Facebook, Twitter a TripAdvisor.  Gall pori yng ngwefan English Heritage osod cwcis o wefannau’r trydydd partïon hyn ar eich cyfrifiadur chi. Nid oes gan English Heritage ddim rheolaeth dros y cwcis hyn, felly nid yw bob amser yn bosibl eu rhestru, ac maen nhw’n dueddol o newid heb roi gwybod i ni.

Gallwn gyfeirio at gwmnïau, sefydliadau a chyrff cyhoeddus a galluogi mynd i mewn i’w gwefannau’n uniongyrchol o’n gwefan ni.  Bydd pob cwmni, sefydliad neu gorff cyhoeddus yn gweithredu ei bolisi ei hun ar werthu data personol a defnyddio cwcis. Os oes gennych ddiddordeb arbennig yn y ffordd y caiff eich data eu defnyddio, neu os ydych yn pryderu am hynny, yna cynghorir chi i ddarllen y Datganiad Preifatrwydd ar y wefan berthnasol.

Yn ogystal â’r polisïau hyn, caiff eich data personol eu diogelu yn y Deyrnas Gyfunol gan Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.  Dan y ddeddfwriaeth hon byddwn yn prosesu unrhyw ddata sydd gennym amdanoch dim ond mewn ffordd gyfreithlon a theg. Byddwn yn cadw’ch data yn ddiogel i atal trydydd partïon rhag gallu eu gweld yn anghyfreithlon.  Hwyrach y bydd yn rhaid datgelu’ch data personol os bydd yn ofynnol inni eu datgelu dan y gyfraith, neu o ganlyniad i gais cyfreithlon gan awdurdod llywodraeth neu awdurdod gorfodi’r gyfraith.

Does dim rhaid ichi gofrestru i ddefnyddio gwefan Llywodraeth Cymru, ond mae angen ichi gofrestru i gymryd rhan yn y trafodaethau ac os byddwch am gael y negesau e-bost diweddaraf.

Y wybodaeth gofrestru y mae’n rhaid inni ei chael er mwyn ichi gofrestru yw: eich enw defnyddiwr (does dim rhaid i hwnnw fod eich enw iawn, ond dylech geisio peidio â dynwared), cyfrinair, a chyfeiriad e-bost.  Caiff y wybodaeth hon ei storio’n ddiogel yn ein cronfa ddata. Nes ichi ddewis dileu’ch cyfrif, caiff eich manylion eu storio’n ddiogel fel na fydd angen ichi ail-gofrestru pan ddowch yn ôl i’r safle.

Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a’ch manylion mewngofnodi drwy’r wefan ar unrhyw adeg. Os dymunwch newid eich proffil personol, cliciwch ar y ddolen 'Subscribe' ar frig y tudalen, mewngofnodwch i’ch cyfrif, a gwiriwch / dad-wiriwch y dewisiadau sydd ar gael. Os nad oes gennych ddiddordeb bellach mewn defnyddio gwasanaethau Llywodraeth Cymru, gallwch ddileu’ch cyfrif ar eich tudalen proffil personol.

Os bydd y polisi hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar y tudalen hwn. Mae adolygu’r tudalen hwn yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn gwybod pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut fyddwn ni’n ei defnyddio, a than ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu gydag eraill.

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973, mae Cadw yn cael ac yn cadw gwybodaeth bersonol yn ymwneud â dynodi asedau hanesyddol a'r cyfundrefnau cydsynio cysylltiedig.

Er enghraifft:

  • Wedi cael gwybod am gynnig ar gyfer diogelu statudol, neu gynnig i ddileu amddiffyniad statudol, neu gynnig i newid cofnod;
  • Yn ystod ymgynghori â pherchennog a / neu feddiannydd adeilad, heneb, parc, gardd neu longddrylliad a gynigir ar gyfer diogelu statudol;
  • Wedi cael gwybod am gais am ganiatâd adeilad rhestredig gan awdurdod cynllunio lleol;
  • Ar ôl cael gwybod bod perchennog neu feddiannydd adeilad rhestredig yn destun gweithdrefnau gorfodaeth; a
  • Wedi cael gwybod am unrhyw fath o gytundeb rheoli neu bartneriaeth ar gyfer adeilad rhestredig.

Mae'r wybodaeth a gedwir yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dewis iaith (Saesneg neu Gymraeg). Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau er budd y cyhoedd (Erthygl 6 (c) a (e) o'r GDPR).

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt cyhyd â bod gennych berchenogaeth a / neu ddeiliadaeth yr adeilad rhestredig, heneb gofrestredig, parc neu ardd hanesyddol neu safle llongddrylliad cofrestredig. Cedwir gohebiaeth sy'n ymwneud ag asedau hanesyddol o'r fath yn ystod eich cyfnod perchenogaeth neu ddeiliadaeth fel cofnod parhaol.

Os bydd unrhyw ddifrod i ased hanesyddol, neu os bydd gwaith heb ganiatâd wedi digwydd, efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gydag awdurdodau cynllunio lleol neu'r heddlu. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill heb eich caniatâd ymlaen llaw.

Gwybodaeth am adeiladau rhestredig

Gallwch weld disgrifiadau a mapiau ar gyfer yr holl Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig yng Nghymru trwy Cof Cymru - Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, map amgylchedd hanesyddol ar-lein Cadw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi gwybod am gywiriadau, cysylltwch â ni ar cadw@llyw.cymru

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (Deddf 1979) rydym ni (Cadw) yn cael a chadw gwybodaeth bersonol gan berchnogion a deiliaid heneb gofrestredig (neu unrhyw heneb gofrestredig arfaethedig), ymgeisydd ar gyfer caniatâd heneb gofrestredig, unrhyw unigolyn sy'n cael ei ymchwilio am wneud gwaith anawdurdodedig neu ddefnyddio datgelydd metel, sy'n derbyn cymorth grant; ac unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw fath o gytundeb rheoli, partneriaeth neu gaffael / gwarcheidwaeth am heneb gofrestredig.

Mae'r wybodaeth a gedwir yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dewis iaith (Saesneg neu Gymraeg). Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau er budd y cyhoedd (Erthygl 6 (e) o'r GDPR).

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt cyhyd â bod gennych gyfrifoldeb perchnogaeth / rheolaeth am yr heneb gofrestredig. Cedwir gohebiaeth sy'n ymwneud â'r heneb yn ystod eich cyfnod perchnogaeth / deiliadaeth yr heneb fel cofnod parhaol.

Pe bai unrhyw ddifrod, neu waith anawdurdodedig wedi digwydd yn y safle, efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r heddlu.

Os bydd cais am ganiatâd heneb gofrestredig yn cynnwys manylion gwaith sydd i'w wneud o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), bydd copi o'r cais yn cael ei rannu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Os dyfernir arnoch Caniatâd Heneb Gofrestredig, fe anfonir copi o'r llythyr penderfyniad i’r drydydd partïon canlynol:

  • yr awdurdod cynllunio lleol
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru rhanbarthol
  • Cyngor Archaeoleg Brydeinig
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (dim ond pan fydd gwaith yn digwydd o fewn SoDdGA).

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill heb eich caniatâd ymlaen llaw.

Gwybodaeth am henebion gofrestredig

Gallwch weld disgrifiadau a mapiau ar gyfer yr holl Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig yng Nghymru trwy Cof Cymru - Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, map amgylchedd hanesyddol ar-lein Cadw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech roi gwybod am gywiriadau, cysylltwch â ni ar ScheduledMonuments@llyw.cymru

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau statudol yn ymwneud â cheisiadau cynllunio, mae Cadw yn sicrhau ac yn cadw gwybodaeth bersonol, er enghraifft, fel ymgynghorai ar gais cynllunio neu apêl.

Mae'r wybodaeth a gedwir yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dewis iaith (Saesneg neu Gymraeg). Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau er budd y cyhoedd (Erthygl 6 (c) a (e) o'r GDPR).

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt fel cofnod parhaol o'r ymgynghoriad cynllunio. Cedwir gohebiaeth sy'n ymwneud â'r ymgynghoriad fel cofnod parhaol.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill heb eich caniatâd ymlaen llaw.

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973, mae Cadw yn sicrhau ac yn cadw gwybodaeth bersonol yn ymwneud â rheoli mynediad i safle llongddrylliad a ddiogelir. Er enghraifft, mae dyfarniad trwydded plymio llongddrylliad yn mynnu manylion personol yr arweinydd plymio, y plymwyr a enwir, a darparwyr cyfeirio.

Mae'r wybodaeth a gedwir yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dewis iaith (Saesneg neu Gymraeg). Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau er budd y cyhoedd (Erthygl 6 (c) a (e) o'r GDPR).

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt a'ch gohebiaeth fel cofnod parhaol o fynediad i'r llongddrylliad.

Os bydd unrhyw ddifrod i'r safle llongddrylliad, efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'r heddlu.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw bartïon eraill heb eich caniatâd ymlaen llaw.