Julian Richards: “Gyrfa mewn Adfeilion”
Amser
7–8.30pm
Lleoliad
Llys a Chastell Tre-twr
Mae’r archeolegydd, awdur, darlledwr (‘Meet the Ancestors’ ar y BBC) a’r un sydd ag obsesiwn am Gôr y Cewri, Julian Richards, wedi bod yn cloddio’r gorffennol ers dros hanner can mlynedd.
Yn y sgwrs fywiog hon, lle bydd yn dangos y grefft o gloddio, bydd Julian yn trafod rhai o uchafbwyntiau ei yrfa ac yn esbonio ei gasineb gydol oes tuag at doiledau cemegol a’r Rhufeiniaid.