Skip to main content
28 Mawrth 2024

Castell Harlech Tocynnau Mynediad i’r Safle

Amser

9.30am–5pm

Lleoliad

Castell Harlech

Os ydych chi’n prynu tocynnau mynediad ar-lein, cofiwch:

  • ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd — gwiriwch eich bod yn gallu mynychu ar y dyddiad rydych chi wedi'i archebu
  • archebu tocyn i bob aelod o’ch grŵp ar gyfer yr un amser
  • mae gan aelodau o English Heritage a Historic Scotland hawl i gael 50% oddi ar bris mynediad yn eu blwyddyn gyntaf; archebwch docyn aelod am ddim a thalu eich pris mynediad gostyngol wrth gyrraedd.

Os ydych chi a’r bobl sy’n byw gyda chi yn teimlo'n iach, mae croeso i chi ymweld â safleoedd Cadw wrth iddyn nhw ailagor. Os oes gennych chi neu’r bobl o'ch cwmpas symptomau tebyg i'r ffliw neu'r annwyd cyffredin, arhoswch gartref a archebwch docynnau ar gyfer dyddiad nes ymlaen. Os byddwch yn dechrau teimlo’n sâl ar ôl archebu eich tocynnau, anfonwch e-bost i cadw@pti.cymru

Cyn i chi ymweld, edrychwch ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i weld os bydd unrhyw safleoedd ar gau. Os bydd unrhyw amheuaeth, ffoniwch y safle cyn i chi gychwyn teithio. Gellir dod o hyd i rifau ffôn y safleoedd ar ein gwefan.

Ni ellir rhoi ad-daliad am docynnau, ac ni ellir eu trosglwyddo oherwydd ein hangen i gadw rheolaeth ar nifer y bobl sydd ar y safle trwy’r adeg. Os bydd y safle'n cau am unrhyw reswm annisgwyl, caiff yr holl docynnau ar gyfer y cyfnod hwnnw eu had-dalu'n awtomatig. Cysylltwch â ni os na fyddwch yn derbyn eich ad-daliad o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydych wedi cadw tocynnau am ddim, efallai y bydd eich tocyn yn annilys heb gerdyn aelodaeth ategol neu brawf o’r hyrwyddiad.

Rhaid i’r bobl yn y categorïau mynediad am ddim canlynol ddod â phrawf o’u haelodaeth i ddilysu eu tocyn; aelod o Gymdeithas Cadw, aelod English Heritage, aelod Historic Scotland, aelod CSSC, deiliad Tocyn Henebion, deiliaid Tocyn Teithio Lleol, deiliaid pàs Pobl Hŷn.

Mae gan aelodau o English Heritage a Historic Scotland hawl i gael 50% oddi ar bris mynediad yn eu blwyddyn gyntaf; archebwch docyn aelod am ddim a thalu eich pris mynediad gostyngol wrth gyrraedd.

Os gwelwch yn dda, dewch i’r safle yn ystod y cyfnod a nodir ar eich tocyn. Ni fyddwn yn prosesu eich mynediad os byddwch yn cyrraedd cyn neu ar ôl yr amser penodedig. Bydd yr amser a ganiateir ar y safle yn amrywio, darllenwch y wybodaeth ar ein gwefan ynglŷn â’r safle rydych am fynd iddo.

Byddwch â’ch tocyn yn barod i’w sganio cyn i chi fynd i mewn i’r safle. 

Dylech ddilyn yr arwyddion diogelwch ar y safle ac unrhyw gyfarwyddiadau gan y Llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol trwy’r adeg. Efallai y bydd canllawiau newydd gan y Llywodraeth yn cael eu cyflwyno rhwng archebu eich tocyn ac ymweld â'n safleoedd — sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r holl fesurau diogelwch gorfodol cyn ymweld â'n safleoedd. 

Er eich lles, rydym yn: cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr i lefelau diogel; sicrhau ymbellhau cymdeithasol; darparu gorsafoedd diheintio dwylo a gweithredu gwell arferion hylendid mewn toiledau ac unrhyw fannau agored cymunedol.

Gall systemau un ffordd fod ar waith ac efallai y bydd gan rai o'n safleoedd fynediad cyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai mannau bychain neu gul wedi’u cau.

Mae Cadw yn aelod o’r cynllun 'Barod i fynd'.

Mae Cadw yn cefnogi cynllun Profion Olrhain Diogelu'r GIG fel rhan o'n haddewid i gadw staff ac ymwelwyr mor ddiogel â phosibl.

Byddwn yn defnyddio data a gesglir o archebion ar-lein os bydd angen defnyddio'r gwasanaeth hwn. Rhowch wybod i ni os ydych yn dymuno i ni beidio â chynnwys eich gwybodaeth mewn unrhyw ddata y bydd angen i ni ei ddarparu. I wneud hynny, cysylltwch â cadw@pti.cymru gyda'r enw a'r cyfeirnod a roddwyd ar yr archeb, y safle, ynghyd â dyddiad ac amser eich ymweliad. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymdrin â'ch data personol o ran Profion Olrhain Diogelu'r GIG, edrychwch ar ein Polisi GDPR Profion Olrhain Diogelu: cadw.llyw.cymru/ein-polisi-preifatrwydd-tracio-ac-olrhain-covid-19

 

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch: 03000 252239

Ar agor yn ddyddiol 10am–4pm 

 

Dewiswch ddyddiad ac amser eich ymweliad i weld y tocynnau sydd ar gael. Mae UN tocyn Teulu yn rhoi mynediad i hyd at 5 person (2 oedolyn & 3 plentyn) os oes angen rhagor o docynnau plentyn, archebwch nhw mewn trafodiad ar wahân. 

Ni ellir prynu mwy na 10 tocyn fesul trafodiad. Os oes angen rhagor o docynnau arnoch, dylech roi’r rhain mewn archeb ychwanegol.